5. General meetings and other gatherings

General meetings: descriptions and functions

The following is a translation into Welsh of 5.04

Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru

5.05

Mae gan Gyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru gyfrifoldebau ar ran Cyfarfod Blynyddol Prydain, i gynrychioli ac hyrwyddo bywyd a thystiolaeth y Crynwyr yng Nghymru. Mae'r cyfarfod yn cynnwys pawb o'r Crynwyr sydd yn byw yng Nghymru neu yn aelodau o gyfarfodydd lleol yng Nghymru. Gwneir darpariaeth i aelodau o gyfarfodydd eraill fynychu cyfarfodydd yn unol â 4.08. Mae cyfrifoldebau Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru yn cynnwys:

a. ar y cyd â chyfarfodydd rhanbarth perthnasol a chyrff Crynwrol eraill hybu bywyd a thystiolaeth ysbrydol, hwyluso cyswllt rhwng Cyfeillion o bob oed a chynnig cyfleoedd am hyfforddiant a chyd gefnogaeth i'r rhai sydd â chyfrifoldebau arbennig;

b. cynrychioli Cyfarfod Blynyddol Prydain o fewn Cymru, gan gynnwys: penodi Cyfeillion i weithredu ar Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) a'i bwyllgorau (gweler 9.09-9.12), cyfathrebu gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a gyda chyrff cyhoeddus a gwirfoddol eraill yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd yn ymwneud â thystiolaeth gymdeithasol, heddwch ac amlffydd;

c. annog cyfathrebu oddiwrth y cyfarfodydd rhanbarth perthnasol ar faterion sydd, yn eu tyb hwy, yn haeddu cael eu cyd drafod, gan gynnwys tystiolaethau i fywyd a gwasanaeth Cyfeillion ymadawedig, gan ddirnad os dylid anfon rhain at y Cyfarfod Blynyddol er lles y Gymdeithas gyfan (gweler 4.27-4.30);

d. ymateb i faterion sydd yn ymwneud â byw mewn cymdeithas dwyieithog gan gynnwys ymestyn i'r gymuned yng Nghymru a chomisiynu, cyfieithu a chyhoeddi deunydd Crynwrol yn y Gymraeg;

e. cynrychioli Cymru i Gyfarfod Blynyddol Prydain, gan gysylltu â phwyllgorau ac adrannau y cyfarfod blynyddol fel bo'n addas.

Fe fydd Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru yn darparu gwybodaeth ac enwebiadau neu benodiadau i gyrff Crynwrol a chyrff eraill yn ôl y galw. Gall y Cyfarfod gysylltu trwy gofnod â Chyfarfod Blynyddol Prydain trwy ei bwyllgor agenda (6.18) a'r Cyfarfod Dioddefiannau (7.04), ac hefyd â'r cyfarfodydd rhanbarth sy'n cynnwys rhannau o Gymru. Mae hefyd yn ofynnol i'r cyfarfod dderbyn cofnodion gan y cyrff hyn.


Next: 5.06

Make a Donation

Leaflet with the title 'Putting our beliefs into action'To find out about new appeals, go to quaker.org.uk/appeal.

You can also donate online.

 

Room Hire & Hospitality