26. Reflections

The light that shines for all

26.64

Wrth roi pwyslais ar y Goleuni oddimewn nid ydym yn dyneiddio crefydd yn ormodol. Nid ein goleuni ni ydyw; ei dderbyn yr ydym ni. A ni ynghanol ein profiadau gyda'n cyd-ddynion, daw rhyw oleuni sydd yn peri i'r profiadau hynny edrych yn wahanol. Dywedwn, yn drwsgl, mai'r Goleuni Oddimewn sydd yn peri'r cyfnewidiad, a chredwn mai oddiwrth Dduw y daeth. Sut y gwyddom nad ydym yn ein twyllo ein hunain? Yn y pen draw nid oes gennym ddim ond ein profiad ein hunain i bwyso arno. Yn y pen draw nid oes gan un a dderbynio'r grefydd fwyaf traddodiadol ddim ond ei brofiad i bwyso arno.

Waldo Williams, 1956

English translation

Next: 26.65

Make a Donation

Leaflet with the title 'Putting our beliefs into action'To find out about new appeals, go to quaker.org.uk/appeal.

You can also donate online.

 

Room Hire & Hospitality