20. Living faithfully today

Honesty and integrity

Oaths and affirmation

The following is a Welsh translation of 20.51

20.52

Dim ond ar yr achlysuron prin pan fo raid iddynt roddi tystiolaeth, bod yn aelod o reithgor neu weithredu mewn unrhyw sefyllfa gyfreithiol arall, y daw cyfle i Gyfeillion arddel ein tystiolaeth hynafol yn erbyn cymryd llwon. Y mae, serch hynny, yn dystiolaeth i'w choleddu. Gall y profiad o gadarnhau fod yn brofiad sydd yn un ysbrydol gyfoethog ac mae iddo draddodiad hen a pharchus.

Mae unrhyw dystiolaeth a roddir gan berson sydd yn cadarnhau o'r un gwerth cyfreithiol â thystiolaeth dan 'lw'. Mae hynny hefyd yn wir am unrhyw weithredoedd neu ddyletswyddau yr ymgymerir â hwy o ganlyniad i gadarnhau, gan gynnwys gwasanaethu ar reithgor. Mae'r egwyddor yma fod 'i gadarnhad difrifol yr un grym a'r un effaith â llw' (adran 5(4) o Ddeddf Llwon 1978) yn gymwys ym mhob amgylchiad; enghraifft arall yw'r affidafid dan lw wrth wneud cais am grant profiant, pryd y gellir ei wneud trwy gadarnhad.

Mae o gymorth os gadewir i glerc y llys wybod ymlaen llaw am y bwriad i gadarnhau ond nid yw'n angenrheidiol gwneud hynny. Mae'r hawl i gadarnhau bellach yn un absoliwt heb unrhyw angen i fynegi'r rheswm dros ddewis gwneud hynny yn hytrach na chymryd llw.

Ffurf y cadarnhad llafar a bennir ymhob lle ac i bob pwrpas lle bo neu lle bydd llw yn ofynnol yn ôl y gyfraith yw'r canlynol: 'Yr wyf i [enw] yn datgan a chadarnhau yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn ddidwyll': ac yna fe ddilyn sylwedd y cadarnhad. Gall tyst _gadarnhau, er enghraifft, y bydd 'y dystiolaeth a roddaf y gwir, yr holl wir a'r gwir yn unig' neu 'y byddaf yn eirwir'; rheithor mewn prawf trosedd 'y profaf yn ffyddlon y diffynnydd (diffynyddion) a rhoi rheithfarn gyflawn (rheithfarnau cyflawn) yn ôl y dystiolaeth, ac mewn gweithrediadau sifil 'y profaf yn iawn ac yn deg y _materion mewn dadl rhwng y pleidiau a rhoi rheithfarn gyfiawn yn ôl y dystiolaeth'.

Mae cadarnhau ysgrifenedig hefyd yn dderbyniol, er enghraifft yng nghyswllt adran 6 o Ddeddf Llwon 1978, neu, pan fo'n addas mewn amgylchiadau cyfreithiol eraill. Dylai pob cadarnhad ysgrifenedig ddechrau: 'Yr wyf i AB o X yn cadarnhau yn ddifrifol ac yn ddiffuant', a'r ffurf yn lle jiwrat fydd 'cadarnhawyd yn X ar y .. dydd o .. 19-/20- ger fy mron [enw]'.

1967; 1994


Next: 20.53

Make a Donation

Leaflet with the title 'Putting our beliefs into action'To find out about new appeals, go to quaker.org.uk/appeal.

You can also donate online.

 

Room Hire & Hospitality