16. Quaker marriage procedure

The meeting for worship

16.37

Pan fo'r cyfarfod i addoli wedi ymgynnull mae'r ddeuddyn, pan fo'n gyfleus, i sefyll, a chan afael y naill yn llaw y llall, i ddatgan yn eglur ac yn ddifrifol, y naill ar ôl y llall, ym mha bynnag drefn y dymunant, gyda'r dyn yn dweud:

Gyfeillion, yr wyf i yn cymryd fy nghyfeilles [enw] yn wraig i mi ac yn addo, trwy gymorth dwyfol, y byddaf iddi hi yn wr cariadus a ffyddlon gyhyd ac y byddom ein dau fyw ar y ddaear.

Yn yr un modd y mae'r wraig i ddweud:

Gyfeillion, yr wyf i yn cymryd fy nghyfaill [enw] yn wr i mi ac yn addo, trwy gymorth dwyfol, y byddaf iddo ef yn wraig gariadus a ffyddlon gyhyd ac y byddom ein dau fyw ar y ddaear.

Gellir cynnwys, fel rhagymadrodd i'r datganiad, y geiriau 'Ym mhresenoldeb Duw' neu'r geiriau 'Yn ofn Duw ac ym mhresenoldeb y gynulleidfa hon'. Yn hytrach na'r geiriau 'trwy gymorth dwyfol' gellir dweud 'trwy gymorth Duw'. Yn lle'r geiriau 'gyhyd ac y byddom fyw ar y ddaear' gellir defnyddio 'hyd nes y gwêl yr Arglwydd yn dda ein gwahanu trwy angau'. Ni oddefir unrhyw newidiadau eraill.


Next: 16.38

Make a Donation

Leaflet with the title 'Putting our beliefs into action'To find out about new appeals, go to quaker.org.uk/appeal.

You can also donate online.

 

Room Hire & Hospitality